Digwyddiadau


Ymgyrch Diogelwch  trwy bentref preswyl yn parhau

Ar ddydd Sadwrn Tachwedd 18fed gorymdeithiodd dros 100 o drigolion lleol Glandyfi,   Eglwys Fach a Ffwrnais ar yr A487 drwy eu pentrefi i ennyn cefnogaeth i’w hymgyrch barhaus am lwybr cerdded diogel drwy’r pentrefi. Maen nhw’n gofyn i Lywodraeth Cymru/Asiantaeth Cefnffyrdd i leihau’r 40pmh i o leiaf 30mya a/neu greu palmant i alluogi pobl i gerdded i’r eglwys, i weld eu ffrindiau ac i’r plant gerdded yn ddiogel, i gyrraedd y bws ysgol. . Dechreuodd yr orymdaith gydag areithiau gan Gynghorydd Ceredigion Catrin Davies ac Aelod Etholaeth Senedd Ceredigion, y Gwir Anrh. Elin Jones, a ddaeth i gefnogi’r ymgyrch ac i ymddiheuro ar ran Senedd Cymru am fethu â datrys y materion diogelwch yn y pentrefi, ers i’r ymgyrch ddechrau yn 1972. Cymerodd yr orymdaith 1 awr i wneud ei ffordd drwy’r pentrefi, gan reoli traffig trwm wrth iddynt fynd. Roedd digon o gefnogaeth gan geir a lorïau oedd yn mynd heibio, a fyddai’n hapus i yrru’n arafach er mwyn osgoi mwy o ddamweiniau angheuol ar y darn hwn o’r ffordd.

 

Ar 30ain Ebrill 2016, cynhaliwyd taith cerdded drwy'r gymuned i dynnu sylw at y ffaith nad oes palmant ar y briffordd.


Make a free website with Yola